Robert HumphreyWILLIAMSWILLIAMS - ROBERT HUMPHREY (Robin Traws) Mawrth 7fed 2015, yn dawel yn ei gartref, Dwylan, Penrhyndeudraeth yn 82 mlwydd oed. Yn enedigol o Drawsfynydd. Gwr annwyl Helen, tad cariadus Iona a'i gwr Gareth, Peter a'i bartner Marjorie, a'r diweddar Richard. Taid hoffus Aled, Gwion, Iolo ac Arianna. Mab y diweddar Wmffra a Lilly May Williams. Brawd Rowena, Betty, Gordon, Bernard a'r diweddar Billy, Ann ac Eira. Colled trist i'w deulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth dydd Gwener 13eg o Fawrth am 11 o'r gloch, yna rhoddir i orffwys ym Mynwent Minffordd. Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion tuag at Nyrsus Cymunedol a Ysgol Hafod Lon trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH - 01766 512091
Keep me informed of updates